Mae Meddygon Teulu yn gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol mewn practisau/meddygfeydd a chanolfannau iechyd lleol. Nid oes angen i chi weld eich Meddyg Teulu bob amser ac efallai y bydd eich practis yn argymell eich bod yn gweld gweithiwr iechyd proffesiynol arall sy'n rhan o dîm y practis.

Mae'r gwahanol rolau'n cynnwys:

Ymarferwyr Iechyd Seicolegol (PHP)

Fferyllydd Practis

Adnabod ac Atgyfeirio I Wella Diogelwch (IRIS) Rheolwr Prosiect

Parafeddyg Practis

Nyrs Practis

Ymarferydd Nyrsio Uwch

Mae derbynyddion practisau Meddygon Teulu ledled Gwent wedi’u hyfforddi i gynghori galwyr ar bwy sydd orau i’w trin, gan sicrhau bod cleifion yn llywio’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn effeithiol. Gallai hyn gynnwys Nyrs y Practis, Uwch Ymarferydd Nyrsio, Fferyllydd lleol neu Fferyllydd mewn Practis a all eich trin heb angen gweld eich Meddyg Teulu.

Bydd y derbynnydd yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau i'ch helpu i ddeall y mater a bydd yn eich cyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gorau sydd fwyaf addas i ddelio â'ch anghenion.